
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd yn un o’r tirweddau mwyaf gwerthfawr ym Mhrydain. Mae’r bryniau’n ymestyn o Ddyffryn Clwyd yn y gorllewin hyd at y troedfryniau wrth Aber Afon Dyfrdwy yn y dwyrain; o’r bryn tu cefn i Brestatyn yn y gogledd hyd at fwlch Nant y Garth yn y de. Lle gwych i gerdded.
Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.clwydianrangeaonb.org.uk
Ac i gael manylion o’r bws gwennol di-dâl sy’n rhedeg bob dydd rhwng Parc Gwledig Loggerheads a Pharc Gwledig Moel Famau yn ystod gwyliau’r haf.
Beth bynnag yw’r math o dir rydych chi’n dymuno cerdded arno, mae ar gael yn Sir Ddinbych. O’r bryniau a phantiau yn Nyffryn Afon Dyfrdwy hyd at unigeddau’r Berwyn a bryngaerau urddasol Bryniau Clwyd.
Walking in Denbighshire and the Clwydian Range AONB
Teithiau cerdded gwledigDarganfod tirwedd amrywiol Gororau Gogledd Cymru.
Darganfod trefiSaith taith gerdded mewn trefi, ar gyfer prif drefi’r ardal, i ddarganfod mwy am eu hanes a’u nodweddion.
Geo-gelcioDewch i ddarganfod celc o gyfoeth y ddaear. Cewch GPS o Barc Gwledig Loggerheads a cheisio ateb posau yng Nghoed Moel Famau.
Beicio MynyddMae gan Sir Ddinbych lwybrau beicio mynydd sy’n addas i ddechreuwyr a grwpiau teulu, llwybrau mwy heriol i feicwyr profiadol a dewis o lwybrau cerdded hardd. Coed Llandegla | Beicio Bryniau Clwyd | Beicio Hiraethog | Marsh Tracks
Darganfod Llyn BrenigCerdded neu feicio ar y llwybrau, sydd wedi’u dangos gydag arwyddion, mynd i bysgota, am bicnic ar lan y llyn neu ymweld â’r caffi a’r siop.
Gerddi Adar Pen y FfrithDros 18 erw o erddi coetir gyda ffrydiau, pyllau, rhaeadrau a llyn 3 erw, golygfeydd arbennig iawn a llawer o adar cyfeillgar.
Pysgota Llynnoedd GwerydCyfleusterau, amgylchiadau a chefnogaeth ardderchog fel bod ymwelwyr yn gallu mwynhau gweithgareddau awyr agored.
Amgueddfa Gerbydau LlangollenEitemau cerbydau, pethau i’w casglu a darnau ceir ar werth trwy’r amser.
Rheilffordd LlangollenMae Rheilffordd Llangollen yn cynnig antur arbennig gyda threnau stêm a phrofiad o wledda ar y cledrau.